Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 4:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynny,bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn,ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di –Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain,a gwisgo'n dillad ein hunain.Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!”

2. Bryd hynny,bydd blaguryn yr ARGLWYDDyn rhoi harddwch ac ysblander,a bydd ffrwyth y tiryn cynnig urddas a mawredd,i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.

3. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion,ac wedi eu gadael yn Jerwsalemyn cael eu galw'n sanctaidd –pawb sydd wedi eu cofnodi i fyw yn Jerwsalem.

4. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhaubudreddi merched Seion,bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –trwy farnu a charthu.

5. Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydda thân yn llosgi yn y nos,a'i osod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion.Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.

6. Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 4