17. Yn wir, roedd yr holl chwerwder ymayn lles i mi:‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.
18. Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti,a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwllddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
19. Y rhai byw, dim ond y rhai bywsy'n gallu diolch i tifel dw i'n gwneud heddiw.Mae tad yn dweud wrth ei blantam dy ffyddlondeb di:
20. Mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni!Gadewch i ni ganu offerynnau cerddyn nheml yr ARGLWYDDweddill ein bywydau!’”
21. Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”
22. Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”