Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 38:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Dywedais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwnam weddill fy nyddiau.’

11. Dywedais:‘Ga i byth weld yr ARGLWYDDyn y bywyd hwn eto;nac edrych ar y ddynoliaethfel y rhai sydd wedi peidio â bod.’

12. Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna ia'i symud fel pabell bugail.Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliainwedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

13. Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.

14. Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,ac yn cŵan fel colomen,wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu!Achub fi!’

15. Beth alla i ei ddweud?Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud,a dyna wnaeth e!Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalusam fod fy enaid mor chwerw.

16. Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio,ac mae bywyd yn fy nghalon eto.Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi.‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’

17. Yn wir, roedd yr holl chwerwder ymayn lles i mi:‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.

18. Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti,a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwllddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.

19. Y rhai byw, dim ond y rhai bywsy'n gallu diolch i tifel dw i'n gwneud heddiw.Mae tad yn dweud wrth ei blantam dy ffyddlondeb di:

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 38