Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:28-38 beibl.net 2015 (BNET)

28. Dw i'n gwybod popeth amdanat ti– dy symudiadau di i gyd,a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.

29. Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn dia ffrwyn yn dy geg di;a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”

30. A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.

31. Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôlyn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.

32. Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.’

33. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria:‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.

34. Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e.Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

35. ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma,er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

36. A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.

37. Felly dyma Senacherib brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.

38. Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37