Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:21-37 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,

22. dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:“Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.

23. Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!

24. Ti wedi defnyddio dy weisioni enllibio'r Meistr, a dweud,‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen idringais i ben y mynyddoedd uchaf,ac i ben draw Libanus.Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf,a'r coed pinwydd gorau,er mwyn cyrraedd copa uchafy llechweddau coediog.

25. Dw i wedi cloddio ffynhonnauac yfed o'u dŵr.Sychais holl ganghennau'r afon Nilhefo gwadn fy nhraed.’

26. Mae'n rhaid dy fod wedi clywed!Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm –mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith,a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith:i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.

27. Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth,maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio.Maen nhw fel planhigion mewn cae,neu dyfiant ar ben towedi ei grino gan wynt y dwyrain.

28. Dw i'n gwybod popeth amdanat ti– dy symudiadau di i gyd,a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.

29. Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn dia ffrwyn yn dy geg di;a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”

30. A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.

31. Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôlyn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.

32. Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.’

33. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria:‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.

34. Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e.Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

35. ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma,er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

36. A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.

37. Felly dyma Senacherib brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37