Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”

14. Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.

15. Yna dyma Heseceia'n gweddïo:

16. “O ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.

17. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!

18. ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,

19. ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.

20. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”

21. Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,

22. dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:“Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.

23. Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!

24. Ti wedi defnyddio dy weisioni enllibio'r Meistr, a dweud,‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen idringais i ben y mynyddoedd uchaf,ac i ben draw Libanus.Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf,a'r coed pinwydd gorau,er mwyn cyrraedd copa uchafy llechweddau coediog.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37