Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”

14. Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.

15. Yna dyma Heseceia'n gweddïo:

16. “O ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.

17. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!

18. ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,

19. ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.

20. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”

21. Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,

22. dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:“Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37