Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.

2. A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.

3. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.

4. Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”

5. Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia,

6. dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.

7. Dw i'n mynd i godi ofn arno fe.Bydd e'n clywed si am rywbethac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun.Bydda i'n gwneud iddo gael ei laddgan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”

8. Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.

9. Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:

10. “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.

11. Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37