Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns?

10. A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”

11. Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.”

12. Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.”

13. Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg,

14. “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi.

15. A peidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’

16. Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun.

17. Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd.

18. Gwyliwch rhag i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria?

19. Ble oedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble oedd duwiau Seffarfaîm? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i?

20. Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’”

21. Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.”

22. A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi eu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi ei ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 36