Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda a'u dal nhw.

2. Yna dyma frenin Asyria yn anfon ei gadfridog yn erbyn y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, a byddin enfawr gydag e. Dyma'r prif swyddog yn aros wrth sianel ddŵr y Pwll Uchaf, ar y ffordd i Faes y Pannwr.

3. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w gyfarfod gyda Shefna yr ysgrifennydd, a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.

4. Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?

5. Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?

6. Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni. Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft.

7. Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli?

8. Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: Betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw!

9. Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns?

10. A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”

11. Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 36