Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser.Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth,a pharch at yr ARGLWYDD – dyna ei drysor iddi.

7. Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan!Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!

8. Mae'r priffyrdd yn wag!Mae'r teithwyr wedi diflannu!Mae'r cytundebau wedi eu torri,a'r tystion yn cael eu dirmygu.Does dim parch at fywyd dynol.

9. Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano!Mae Libanus yn crino a gwywo!Mae Saron fel anialwch,a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.

10. “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD,“Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i!

11. Dim ond us dych chi'n ei feichiogi;dim ond gwellt fydd yn cael ei eni!Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!

12. Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi,neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân.

13. Chi sy'n bell i ffwrdd,gwrandwch beth dw i wedi ei wneud!A chi sy'n agos,gwelwch mor nerthol ydw i.”

14. Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn,Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn.“Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma?Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”

15. Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawnac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elwa drwy dwyll,na derbyn breib,yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed,ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.

16. Person felly fydd yn saff rhag y cwbl,a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas.Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnala bydd digonedd o ddŵr iddo.

17. Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander,a thir eang yn ymestyn i'r pellter.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33