Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau,“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydoa dweud wrthon ni beth sy'n iawn.Dwedwch bethau neis,er ei fod yn gelwydd!

11. Trowch o'r ffordd!Ewch oddi ar y llwybr iawn!Stopiwch ein hatgoffa niam Un Sanctaidd Israel!”

12. Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud:Am eich bod wedi gwrthod y neges yma,a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –

13. bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio,ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.

14. Bydd yn torri'n ddarnau,fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion –bydd wedi darfod.Fydd dim un darn yn ddigon o fainti godi marwor o badell dân,neu wagio dŵr o bwll.

15. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;Wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.

16. “Na,” meddech chi.“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –a dyna wnewch chi.“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!

17. Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;pump yn bygwth a pawb yn dianc.Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw felpolyn fflag ar ben bryn,neu faner ar ben mynydd.

18. Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn;ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!

19. Wir i chi bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.

20. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30