Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Gwae chi blant ystyfnig!” meddai'r ARGLWYDD –“yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau,a ffurfio cynghreiriau wnes i mo'i hysbrydoli!A'r canlyniad? –pentyrru un pechod ar y llall!

2. Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi,a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyna'u cuddio dan gysgod yr Aifft.

3. Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,

4. er bod ganddo swyddogion yn Soana llysgenhadon mor bell â Chanes.

5. Cânt eu cywilyddio'n llwyram fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –dim help o gwbl!Fyddan nhw'n elwa dim,ond yn profi siom a chywilydd.”

6. Neges am "Anifeiliaid y Negef":Yn nhir trafferthion a chaledi,gwlad y llewes a'r llew cry,y neidr a'r wiber wibiog,maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod,a'u trysorau ar gefn camelod,ar ran pobl sy'n dda i ddim.

7. Mae'r Aifft yn ddiwerth!Dŷn nhw ddim help o gwbl!Felly, dw i'n ei galw hi,“Rahab gysglyd.”

8. Tyrd nawr,Ysgrifenna hi ar lechena'i chofnodi mewn sgrôl,i fod yn dystiolaeth barhaoli'r dyfodol.

9. Achos maen nhw'n bobl anufudd,ac yn blant sy'n twyllo –plant sy'n gwrthod gwrandoar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.

10. Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau,“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydoa dweud wrthon ni beth sy'n iawn.Dwedwch bethau neis,er ei fod yn gelwydd!

11. Trowch o'r ffordd!Ewch oddi ar y llwybr iawn!Stopiwch ein hatgoffa niam Un Sanctaidd Israel!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30