Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 28:14-29 beibl.net 2015 (BNET)

14. Felly dyma neges yr ARGLWYDDi chi sy'n gwawdio;chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!

15. Chi sy'n brolio,“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth,a taro bargen i osgoi'r bedd.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”

16. Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion,carreg ddiogel,conglfaen gwerthfawr,sylfaen hollol gadarn.Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.

17. Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur,a tegwch yn llinyn plwm.Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio,a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.

18. Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri,a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,chi fydd yn diodde'r difrod.

19. Bydd yn eich taro chibob tro y bydd yn dod heibio.Bydd yn dod un bore ar ôl y llall,bob dydd a bob nos.”Bydd deall y neges ymayn achosi dychryn ofnadwy.

20. Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno,a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!

21. Bydd yr ARGLWYDD yn codifel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm;bydd yn cyffroi i wneud ei waithfel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon –ond bydd yn waith rhyfedd!Bydd yn cyflawni'r dasg –ond bydd yn dasg ddieithr!

22. Felly, stopiwch wawdio,rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau.Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.

23. Gwrandwch yn astud ar hyn!Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.

24. Ydy'r sawl sy'n aredigyn aredig drwy'r amser heb hau?Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?

25. Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'ngwasgaru ffenigl a hadau cwmin?Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes,haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?

26. Ei Dduw sy'n ei ddysgu;mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.

27. Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled,na cwmin gydag olwyn trol.Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon,a cwmin gyda gwialen.

28. Mae gwenith yn cael ei falu,ond ddim yn ddiddiwedd.Mae olwyn trol yn rholio trosto,ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.

29. A'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd –Mae ganddo gynllun gwych,ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 28