Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 27:6-13 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.

7. Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?

8. Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryfar ddydd y storm.

9. Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gydfel petaen nhw'n garreg galch –a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarthwedi eu torri i gyd.

10. Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag;cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith.Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawrac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.

11. Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri;ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.

12. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o Afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un!

13. Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 27