Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 27:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynnybydd yr ARGLWYDDyn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur –Lefiathan, y neidr droellog;a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.

2. Bryd hynny byddwch yn canu'r gân "Y Winllan Hyfryd":

3. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani,ac yn ei dyfrio hi bob amser.Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,rhag i rywun wneud niwed iddi.

4. Dw i ddim yn ddig bellach:Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,ac yn eu llosgi nhw'n ulw.

5. Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.

6. Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.

7. Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?

8. Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryfar ddydd y storm.

9. Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gydfel petaen nhw'n garreg galch –a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarthwedi eu torri i gyd.

10. Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag;cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith.Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawrac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.

11. Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri;ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 27