Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.

6. Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn paratoi gwledd o fwyd blasusi'r cenhedloedd i gyd.Gwledd o winoedd aeddfed –bwyd blasus gyda'r gwin gorau.

7. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llensy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd,a'r gorchudd sy'n bwrw cysgoddros y cenhedloedd i gyd.

8. Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth.Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrauoddi ar bob wyneb,a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir.—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

9. Bryd hynny bydd y bobl yn dweud:“Dyma'n Duw ni;yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub ni.Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio;Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”

10. Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn.Bydd Moab yn cael ei sathru ganddofel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen.

11. Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol,fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio.Bydd yn gwneud i falchder Moab suddohefo symudiad ei ddwylo.

12. Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffynyn cael eu bwrw i lawr ganddo;bydd yn eu chwalu i'r llawr –nes byddan nhw yn y llwch.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25