Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:2-8 beibl.net 2015 (BNET)

2. Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig!Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu!

3. Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di!A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!

4. Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio;yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng –yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,

5. neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.

6. Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn paratoi gwledd o fwyd blasusi'r cenhedloedd i gyd.Gwledd o winoedd aeddfed –bwyd blasus gyda'r gwin gorau.

7. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llensy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd,a'r gorchudd sy'n bwrw cysgoddros y cenhedloedd i gyd.

8. Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth.Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrauoddi ar bob wyneb,a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir.—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25