Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i!Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw!Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;ti'n gwbl ddibynadwy!

2. Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig!Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu!

3. Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di!A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!

4. Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio;yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng –yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,

5. neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.

6. Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn paratoi gwledd o fwyd blasusi'r cenhedloedd i gyd.Gwledd o winoedd aeddfed –bwyd blasus gyda'r gwin gorau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25