1. ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i!Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw!Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;ti'n gwbl ddibynadwy!
2. Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig!Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu!
3. Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di!A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!