Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo.Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo.Mae ei phobl bwysica yn wan.

5. Mae'r tir ei hun wedi ei lygrugan y rhai sy'n byw arno.Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth,newid y deddfau,a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.

6. Dyna pam mae'r wlad wedi ei melltithio'n llwyr,a'i phobl yn cael eu cosbi.Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu,nes bod bron neb ar ôl.

7. Mae'r sudd grawnwin yn sychu,a'r coed gwinwydd yn gwywo,a'r holl hwyl a'r miri'n troi'n riddfan.

8. Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi,yr holl firi swnllyd wedi peidio,a sain hyfryd y delyn yn dawel.

9. Does neb yn canu wrth yfed gwin;ac mae'r cwrw yn blasu'n chwerw.

10. Dinas mewn anhrefn wedi ei dryllio!Pob tŷ wedi ei gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo.

11. Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd:mae pob hwyl wedi peidio,a miri wedi ei daflu allan o'r wlad.

12. Mae'r ddinas wedi ei gadael mewn llanast llwyr,a'i giatiau wedi eu dryllio'n ddarnau.

13. Fel yna bydd hi yn y tir,ymhlith y gwledydd:Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd,a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd.

14. Ond bydd rhai'n codi eu lleisiauac yn gweiddi'n llawen!Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewinam fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.

15. Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrainac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin –addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24