Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae'r ddinas wedi ei gadael mewn llanast llwyr,a'i giatiau wedi eu dryllio'n ddarnau.

13. Fel yna bydd hi yn y tir,ymhlith y gwledydd:Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd,a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd.

14. Ond bydd rhai'n codi eu lleisiauac yn gweiddi'n llawen!Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewinam fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.

15. Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrainac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin –addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel.

16. Mae canu i'w glywedo ben draw'r byd:“Mae'r Un Cyfiawn mor wych!”Ond wedyn dw i'n dweud:“Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi!Mae bradwyr yn bradychu!Bradwyr yn bradychu â'u brad!”

17. Panig, pydew a thrapi bawb sy'n byw yn y wlad!

18. Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychrynyn disgyn i lawr i dwll.A bydd pawb sy'n dringo o'r twllyn cael ei ddal mewn trap!Mae'r llifddorau wedi eu hagor yn yr awyr,ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu.

19. Mae'r tir wedi cracio drosto;mae wedi hollti'n ddarnau,ac yn cael ei erydu'n llwyr.

20. Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn,ac yn sigledig fel cwt gwyliwr.Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd,Bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!

21. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDDyn cosbi pwerau'r awyr uchoda brenhinoedd y ddaear isod.

22. Byddan nhw'n cael eu casglu at ei gilyddfel carcharorion mewn dwnsiwn,a'i cloi yn y carchar,i wynebu eu tynged ar ôl amser hir.

23. Bydd y lleuad yn cywilyddioa'r haul yn swil,pan fydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn teyrnasuar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24