Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Edrych! Mae'r ARGLWYDDyn difetha'r tir a'i adael yn wag!Mae'n ei droi â'i ben i lawr,ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno.

2. Bydd yr un peth yn digwyddi'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin,i'r gwas a'i feistr,i'r forwyn a'i meistres,i'r gwerthwr a'r prynwr,i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg,i'r credydwr a'r un mewn dyled.

3. Bydd y tir yn hollol wag –wedi ei ysbeilio'n llwyr.Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud.

4. Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo.Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo.Mae ei phobl bwysica yn wan.

5. Mae'r tir ei hun wedi ei lygrugan y rhai sy'n byw arno.Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth,newid y deddfau,a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.

6. Dyna pam mae'r wlad wedi ei melltithio'n llwyr,a'i phobl yn cael eu cosbi.Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu,nes bod bron neb ar ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24