Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 22:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. ‘Beth sy'n digwydd yma?Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma?Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig;Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!

17. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd –dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn!Bydd yn dy lapio di'n dynn,

18. yn dy rolio i fyny fel pelenac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn!A dyna ble byddi di'n marw.Yr unig gerbydau crand i gario dy gorfffydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!

19. Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di!Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!

20. Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia,

21. ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a pobl Jwda i gyd.

22. Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau.

23. Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi ei tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad.

24. Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’”

25. “Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 22