2. Cafodd gweledigaeth erchyllei rhoi i mi:“Mae'r bradwr yn bradychu,a'r dinistrydd yn dinistrio!Ymlaen, Elam!Gwarchae arni, Media!Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.”
3. Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;Mae poenau yn gafael yno ifel gwraig mewn poen wrth gael babi.Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
4. Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
5. Mae “Trefnwch wledd”wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”“Bwytwch ac yfwch!”wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!”
6. Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,a dweud beth mae'n ei weld.
7. Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”
8. Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,ac wedi edrych allan bob nos.
9. Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –Dyn mewn cerbydgyda phâr o geffylau!”Ac mae'n gweiddi'n uchel,“Mae wedi syrthio!Mae Babilon wedi syrthio!Mae'r delwau o'i holl dduwiauyn ddarnau mân ar lawr!”
10. Chi sydd wedi dioddef –fy mhobl ar fy llawr dyrnu:Dw i wedi dweud wrthoch chibeth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus,Duw Israel.
11. Neges am Dwma.Mae rhywun yn galw arna i o Seir:“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
12. Atebodd y gwyliwr,“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.Trowch! Dewch yn ôl!”
13. Neges am Arabia.Cuddiwch yn nrysni'r anialwch,chi grwydriaid Dedan!
14. Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig,chi sy'n byw yn Tema;rhowch fara i'r ffoaduriaid,
15. achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel:rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain,rhag y bwa sy'n barod i saethu,a rhag caledi'r frwydr.
16. Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod;
17. nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.