Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon):Fel y gwyntoedd stormussy'n rhuthro drwy'r Negef,mae e'n dod o'r anialwch,o wlad sydd i'w hofni.

2. Cafodd gweledigaeth erchyllei rhoi i mi:“Mae'r bradwr yn bradychu,a'r dinistrydd yn dinistrio!Ymlaen, Elam!Gwarchae arni, Media!Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.”

3. Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;Mae poenau yn gafael yno ifel gwraig mewn poen wrth gael babi.Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.

4. Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:

5. Mae “Trefnwch wledd”wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”“Bwytwch ac yfwch!”wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!”

6. Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,a dweud beth mae'n ei weld.

7. Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”

8. Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,ac wedi edrych allan bob nos.

9. Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –Dyn mewn cerbydgyda phâr o geffylau!”Ac mae'n gweiddi'n uchel,“Mae wedi syrthio!Mae Babilon wedi syrthio!Mae'r delwau o'i holl dduwiauyn ddarnau mân ar lawr!”

10. Chi sydd wedi dioddef –fy mhobl ar fy llawr dyrnu:Dw i wedi dweud wrthoch chibeth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus,Duw Israel.

11. Neges am Dwma.Mae rhywun yn galw arna i o Seir:“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”

12. Atebodd y gwyliwr,“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.Trowch! Dewch yn ôl!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21