Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 19:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges am yr Aifft.Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl cyflym,ac yn dod i'r Aifft.Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen,a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.

2. “Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft;bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd,un yn erbyn y llall,dinas yn erbyn dinas,teyrnas yn erbyn teyrnas.

3. Bydd yr Aifft wedi anobeithio,a bydda i wedi drysu ei chynlluniau.Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad,ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.

4. Bydda i'n rhoi'r Eifftiaidyn nwylo meistri gwaith caled,a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.”—y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

5. Bydd yr Afon Nil yn sychu,a gwely'r afon yn grasdir sych.

6. Bydd y camlesi yn drewi,canghennau'r Afon Nil yn sychu,a'r brwyn a'r hesg yn pydru.

7. Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith,a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lanyn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd –fydd dim ar ôl.

8. Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno –pawb sy'n taflu bachyn i'r afon,neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.

9. Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd,y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.

10. Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi eu llethu gan bryder,a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.

11. Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid.Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharoyn dweud pethau cwbl hurt!Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo,“Dw i'n un o'r rhai doeth,o urdd yr hen frenhinoedd”?

12. Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di?Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deallbeth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.

13. Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid,ac arweinwyr Memffis wedi eu twyllo;Mae penaethiaid ei llwythauwedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.

14. Mae'r ARGLWYDD wedi ei chymysgu a'i drysu,a gwneud iddi faglu dros bobman,fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 19