Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 15:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Neges am Moab.Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr;Do, cafodd ei dinistrio mewn noson,cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.

2. Maen nhw wedi mynd i'r deml,ac i'r allor leol yn Dibon i wylo.Mae Moab yn udoam beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba.Mae pob pen yn foel,pob barf wedi ei siafio,

3. ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd.Mae pawb yn udoac yn beichio crïoar bennau'r tai ac yn y sgwariau.

4. Mae sgrechian yn Cheshbon ac Eleale,ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats.Felly, mae milwyr Moab yn gweiddia crynu trwyddynt mewn ofn.

5. Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab –a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soarac Eglath-shalisheia.Maen nhw'n wylo wrth ddringoar lethr LwchithMae gwaedd dinistr yn codiar y ffordd i Choronaïm.

6. Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu;mae'r glaswellt wedi gwywo,a phob tyfiant yn methu.Mae pob planhigyn wedi diflannu.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 15