Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad.Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw,i'w drin gan eu gweision a'u morynion.Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw,ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.

3. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas,

4. byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:“Ble mae'r gormeswr wedi diflannu?Mae ei falchder wedi dod i ben!

5. Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,a gwialen y gormeswyr.

6. Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloeddyn ddi-stop.Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredda'u herlid yn ddi-baid.

7. Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro;ac mae'r bobl yn canu'n llawen.

8. Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,a'r coed cedrwydd yn Libanus:‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’

9. Mae byd y meirw isod mewn cyffro,yn barod i dy groesawu di –Bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd,a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaearyn codi oddi ar eu gorseddau.

10. Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di,‘Felly, ti hyd yn oed! –rwyt tithau'n wan fel ni!

11. Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiauwedi ei dynnu i lawr i Annwn!Bydd y cynrhon yn wely oddi tanata phryfed genwair yn flanced drosot ti!

12. Y fath gwymp! –Ti, seren ddisglair, mab y wawr,wedi syrthio o'r nefoedd!Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear –ti oedd yn sathru'r holl wledydd!

13. Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun,“Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd,a gosod fy ngorseddyn uwch na sêr Duw.Dw i'n mynd i eistedd ar Fynydd y gynulleidfayn y gogledd pell.

14. Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau,a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”

15. O'r fath gwymp! –Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,i'r lle dyfnaf yn y Pwll!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14