Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:17-32 beibl.net 2015 (BNET)

17. Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoedd –heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’

18. Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd– pob un ohonyn nhw –yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.

19. Ond ti? – cest ti dy adael heb dy gladdu,yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu.Fel corff marw yn y dillad a wisgaipan gafodd ei drywanu gan y cleddyf.Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll,neu gorff yn cael ei sathru dan draed.

20. Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy huna lladd dy bobl dy hun.Boed i neb byth eto gofio'rfath hil o bobl ddrwg!

21. Paratowch floc i ddienyddio ei feibiono achos drygioni eu tad.Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tira llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!”

22. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw.Bydda i'n dileu pob enw o Babilon,a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno,eu plant a'u disgynyddion i gyd.

23. Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogoda'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd.Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

24. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi tyngu llw:“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;bydd fy nghynlluniau yn dod yn wir.

25. Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir,ac yn ei sathru ar fy mryniau.Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw,a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.

26. Dyna'r cynllun sydd gen iar gyfer y ddaear gyfan.Dyna pam mae fy llaw yn barodi ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”

27. Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus gynllun –Pwy sy'n mynd i'w rwystro?Mae ei law yn barod i weithredu –Pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl?

28. Neges gafodd ei roi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:

29. Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd,am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri.O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.

30. Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori,a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel.Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn,a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.

31. Udwch wrth y giatiau; sgrechian yn y ddinas;Mae Philistia i gyd mewn dychryn!Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd,a does neb yn ei rhengoedd yn llusgo eu traed.

32. Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl?Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff,a bod lloches yno i'w bobl anghenus.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14