Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 12:2-6 beibl.net 2015 (BNET)

2. Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i!Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn.Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.”

3. Byddwch yn codi dŵr yn llaweno ffynhonnau achubiaeth.

4. Byddwch yn dweud bryd hynny:“Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw.Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel.

5. Canwch salmau i'r ARGLWYDD,am iddo wneud peth mawr!Gwnewch yn siŵr fod y byd i gydyn gwybod am y peth!

6. Bloeddiwch ganu'n llawen,chi sy'n byw yn Seion!Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr –Un Sanctaidd Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 12