Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 12:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynny, byddi'n dweud:“Dw i eisiau diolch i ti, O ARGLWYDD!Er dy fod wedi digio gyda fi,rwyt wedi troi oddi wrth dy ddig a'm cysuro.

2. Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i!Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn.Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.”

3. Byddwch yn codi dŵr yn llaweno ffynhonnau achubiaeth.

4. Byddwch yn dweud bryd hynny:“Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw.Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel.

5. Canwch salmau i'r ARGLWYDD,am iddo wneud peth mawr!Gwnewch yn siŵr fod y byd i gydyn gwybod am y peth!

6. Bloeddiwch ganu'n llawen,chi sy'n byw yn Seion!Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr –Un Sanctaidd Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 12