Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 11:11-16 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – ac hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.

12. Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd,ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel.Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaruo bedwar ban byd.

13. Yna bydd cenfigen Effraim yn darfoda bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben.Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda,a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.

14. Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin,ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd.Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw,a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.

15. Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft.Bydd yn codi ei law dros Afon Ewffratesac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant,er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed.

16. Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei boblsydd wedi eu gadael yn Asyria,fel yr un oedd i bobl Israelpan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 11