Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 11:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse,a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau.

2. Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno:ysbryd doethineb rhyfeddol,ysbryd strategaeth sicr,ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.

3. Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD:fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.

4. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn degac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaeara bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.

5. Bydd cyfiawnder a ffyddlondebfel belt am ei ganol.

6. Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen,a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr.Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd,a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.

7. Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd,a'u rhai ifanc yn cydorwedd;a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.

8. Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobraa phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 11