Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 1:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dysgwch wneud da.Brwydrwch dros gyfiawnder;o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.Cefnogwch hawliau plant amddifad,a dadlau dros achos y weddw.

18. Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”—meddai'r ARGLWYDD.“Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar,gallan nhw droi'n wyn fel yr eira;Os ydyn nhw'n goch tywyll,gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.

19. Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud,cewch fwyta cynnyrch da'r tir;

20. Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

21. Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain.Roedd hi'n ddinas ffyddlon,yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –ond bellach llofruddion.

22. Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd;mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr!

23. Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,ac yn ffrindiau i ladron;Maen nhw i gyd yn hoffi breib,Ac yn chwilio am wobr.Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifadna gwrando ar achos y weddw.

24. Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud(yr ARGLWYDD holl-bwerus),Arwr Israel! –“O! bydda i'n dangos fy nig i'r rhai sy'n fy erbyn!Bydda i'n dial ar fy ngelynion!

25. Bydda i'n ymosod arnatac yn symud dy amhuredd â thoddydd.Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!

26. Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen,a cynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm.Wedyn byddi di'n cael dy alw‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”

27. Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad;a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.

28. Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru;Bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.

29. Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredigoeddech chi mor hoff ohonyn nhw.Byddwch chi wedi drysu o achosy gerddi paganaidd oeddech wedi eu dewis.

30. Byddwch fel coeden dderwenâ'i dail wedi gwywo,neu fel gardd sydd heb ddŵr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 1