Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 1:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gweledigaeth Eseia fab Amos.(Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)

2. Gwranda nefoedd! Clyw ddaear!Mae'r ARGLWYDD yn dweud:“Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw –ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.

3. Mae ychen yn nabod ei berchennogac asyn yn gwybod ble mae cafn bwydo ei feistr:ond dydy Israel ddim yn fy nabod i;dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”

4. O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu!Pobl sy'n llawn drygioni!Nythaid o rai sy'n gwneud drwg!Plant pwdr!Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,A dirmygu Un Sanctaidd Israel,Maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.

5. Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela?Ydych chi eisiau cael eich curo eto?Mae briwiau ar bob pena'r corff yn hollol wan.

6. Does unman yn iacho'r corun i'r sawdl:Dim ond clwyfau a chleisiau,a briwiau agored –Heb eu gwella na'u rhwymo,ac heb olew i'w hesmwytho.

7. Mae eich gwlad fel anialwch,a'ch dinasoedd wedi eu llosgi'n ulw;Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydauo flaen eich llygaid –Anialwch wedi ei ddinistrio gan estroniaid!

8. Dim ond Seion hardd sydd ar ôl –fel caban yng nghanol gwinllan,neu gwt mewn gardd lysiau;fel dinas yn cael ei gwarchae.

9. Oni bai fod yr ARGLWYDD holl-bweruswedi gadael i rai pobl fyw,bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.

10. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,arweinwyr Sodom!Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,bobl Gomorra!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 1