Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 9:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Lladdwch nhw i gyd – yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.”Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml.

7. “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi ei lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.”

8. Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?”

9. A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’

10. Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud!”

11. Wedyn dyma'r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 9