Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 7:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dw i wedi digio go iawn. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud.

4. Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

5. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg.

6. Mae'r diwedd yn dod! Mae'n dod go iawn! Mae hi ar ben arnoch chi!

7. Mae'r farn yn dod ar bawb sy'n byw yn y wlad yma! Mae hi ar ben! Mae'r diwrnod mawr yn agos! Bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn panig ar y mynyddoedd yn lle sŵn pobl yn dathlu ac yn cael hwyl.

8. Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi nawr. Cewch weld gymaint dw i wedi gwylltio. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud.

9. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi'ch taro chi.

10. “Edrychwch! Y diwrnod mawr! Mae'r farn ar ei ffordd! Mae anghyfiawnder a drygioni wedi blodeuo!

11. Mae trais wedi troi'n wialen i gosbi drygioni. Fydd neb ar ôl – neb o'r werin, neb o'r cyfoethog, neb o'r pwysigion.

12. Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda pawb.

13. Fydd y gwerthwr ddim yn cael yr eiddo'n ôl. Mae beth mae Duw wedi ei ddweud yn mynd i ddigwydd. Bydd pawb yn cael eu cosbi am eu pechod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 7