Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 7:15-27 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd gan y cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint.

16. Bydd y rhai sy'n dianc yn rhedeg i'r mynyddoedd. Byddan nhw fel colomennod yn cŵan wrth alaru am eu pechodau.

17. Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn.

18. Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio eu pennau.

19. “Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a'u harwain nhw i bechu!

20. Roedden nhw wedi defnyddio eu tlysau hardd i wneud delwau ffiaidd – duwiau da i ddim. Ond bydd y cwbl fel sbwriel afiach.

21. Bydda i'n ei roi yn ysbail i bobl o wledydd eraill. Bydd paganiaid drwg yn ei gymryd ac yn poeri arno.

22. Bydda i'n edrych i ffwrdd tra maen nhw'n treisio fy nheml i. Bydd fandaliaid yn dod i mewn i'r ddinas, yn ei threisio

23. ac yn creu hafoc llwyr. (Bydd hyn i gyd yn digwydd o achos y tywallt gwaed ofnadwy sy'n y wlad a'r creulondeb sydd yn y ddinas.)

24. Bydd y wlad waethaf un yn dod ac yn cymryd eu tai nhw. Bydda i'n rhoi taw ar eu holl falchder ac yn dinistrio'r holl leoedd cysegredig sydd ganddyn nhw.

25. Byddan nhw wedi eu parlysu! Byddan nhw'n ysu am heddwch, ond yn cael dim.

26. Bydd un drychineb ar ôl y llall, a dim byd ond newyddion drwg. Fydd gan y proffwydi ddim gweledigaeth i'w gynnig. Fydd yr offeiriaid ddim yn gallu rhoi arweiniad o'r Gyfraith, a fydd yr arweinwyr gwleidyddol ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

27. Bydd y brenin yn gwisgo dillad galar, a bydd y bobl gyffredin mewn sioc. Bydda i'n delio gyda nhw am y ffordd maen nhw wedi bod yn byw, ac yn eu trin nhw fel roedden nhw wedi trin pobl eraill. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 7