Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 6:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu mynyddoedd Israel, a proffwydo yn eu herbyn nhw.

3. “Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e'n ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y ceunentydd a'r dyffrynnoedd: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio'ch allorau paganaidd lleol chi.

4. Fydd yr allorau'n ddim byd ond rwbel, a'r llestri i losgi arogldarth wedi eu malu'n ddarnau. Bydd pobl yn syrthio'n farw o flaen eich eilunod da i ddim.

5. Bydd cyrff meirw yn gorwedd o'u blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau.

6. Fydd dim dianc! Bydd eich trefi'n cael eu dinistrio'n llwyr, a'r allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wedi eu malu a'u bwrw i lawr, a'r llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd o'ch gwaith llaw chi ar ôl!

7. Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

8. “‘Ond bydda i'n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny'n ffoaduriaid wedi eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.

9. A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd.

10. Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:“Dangos mor ddig wyt ti trwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi eu gwneud. Byddan nhw'n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.”

12. Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy'n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy'n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i'n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 6