Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 5:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”

11. “Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi eu gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl!

12. Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!”

13. “Ar ôl hynny bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw.

14. Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion.

15. Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!

16. Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl.

17. Bydd newyn ac anifeiliaid gwylltion yn lladd eich plant chi. Bydd afiechydon ofnadwy a thrais yn eich llethu chi. Bydda i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 5