1. “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri.
2. Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw!
3. Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced.
4. Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”
5. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas.
6. Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!”
7. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud:“Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!