2. Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.
3. Wedyn Nafftali, i'r de o Asher.
4. Wedyn Manasse.
5. Wedyn Effraim.
6. Wedyn Reuben.
7. Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
8. “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.
9. Bydd y tir sydd wedi ei gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a tair milltir a chwarter o led.
10. Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.
11. Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid.
12. Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda tir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.
13. “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led.
14. Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi ei gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.