18. Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a tair milltir a hanner i'r gorllewin.
19. Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas.
20. Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a tiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.
21. “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas.) Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol.
22. Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a tir amaeth y ddinas, gyda tir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.
23. “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
24. Wedyn tir Simeon.
25. Wedyn Issachar.
26. Wedyn Sabulon.
27. Ac yn olaf Gad.
28. A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
29. Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
30. Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd,
31. bydd tair giât wedi eu henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi.
32. Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan.
33. Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon.
34. Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali.
35. Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.”