Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.

13. “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

14. Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore – tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid.

15. Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.

16. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth.

17. Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.

18. Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”

19. Wedyn aeth â fi trwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol.

20. “Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.”

21. Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel:

22. pedwar cwrt bach yr un maint, sef dau ddeg metr wrth un deg pump.

23. Roedd wal gerrig isel o gwmpas pob un ohonyn nhw, a nifer o leoedd tân ar gyfer coginio wrth waelod y wal.

24. “Dyma'r ceginau ble mae gweision y deml yn berwi'r cig o aberthau y bobl,” meddai wrtho i.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46