Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 46:1-19 beibl.net 2015 (BNET)

1. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd y giât i'r iard fewnol sy'n wynebu'r dwyrain wedi ei chau ar y chwe diwrnod gwaith; ond bydd yn cael ei hagor ar y diwrnod Saboth ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis.

2. Bydd pennaeth y wlad yn dod i mewn trwy gyntedd allanol y giât. Bydd yn sefyll wrth ymyl pyst y giât tra bydd yr offeiriaid yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yn ymgrymu i addoli ar drothwy'r giât, ac yna'n mynd allan. Ond fydd y giât ddim yn cael ei chau nes iddi nosi.

3. Bydd y bobl gyffredin yn addoli tu allan i'r fynedfa honno ar y Sabothau ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis.

4. “‘Dyma fydd pennaeth y wlad yn ei roi yn offrwm i'w losgi bob Saboth: chwe oen ac un hwrdd heb ddim byd o'i le arnyn nhw.

5. Bydd deg cilogram o rawn yn cael ei offrymu gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen. Mae hefyd i roi galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.

6. Ar Ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd – anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.

7. Offrwm o rawn hefyd – sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.

8. Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd.

9. “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.

10. Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl.

11. “‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.

12. Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.

13. “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

14. Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore – tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid.

15. Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.

16. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth.

17. Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.

18. Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”

19. Wedyn aeth â fi trwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 46