5. Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml.
6. “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.
7. “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau.
8. Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi ei roi i bob un o lwythau Israel.
9. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi.
10. Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir.
11. Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw.
12. A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.
13. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd;
14. un rhan o gant o'r olew olewydd;
15. ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
16. “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad.