Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 45:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.

13. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd;

14. un rhan o gant o'r olew olewydd;

15. ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

16. “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad.

17. Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.

18. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân.

19. Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol.

20. Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân.

21. “‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod.

22. Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl.

23. Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o'i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 45