Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 45:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. “‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD – darn o dir wedi ei gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig.

2. (Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i'w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o'i gwmpas sy'n 26 metr o led.)

3. Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a'r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi ei osod yn ei ganol.

4. Bydd yn dir wedi ei gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml.

5. Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml.

6. “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.

7. “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau.

8. Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi ei roi i bob un o lwythau Israel.

9. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi.

10. Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir.

11. Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw.

12. A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.

13. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd;

14. un rhan o gant o'r olew olewydd;

15. ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 45