Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau.

17. “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun.

18. Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu.

19. Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd.

20. “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir.

21. Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol.

22. Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen.

23. Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.

24. “‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu.

25. “‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44